Y Cyfarfod Blynyddol
Bu Cyfarfod Blynyddol Llety Arall yn llwyddiant efo bron a bod 30 yn mynychu.

Diolch i Sian Beca Siwgr Lwmp am y panad a cacenni. Mae Beca wedi defnyddio'r stafell gyfarfod ar gyfer parti plu

Yr oedd yn braf adrodd bod yr adeilad wedi llwyddo i sicrhau gradd B o ran effeithiolwydd ynni ac hefyd yn rhagori ar y safonau o ran atal swn.

mae'r siart syml isod yn dangos sut yr ydym yn llwyddo i wario'n lleol. mae genyn y rhyddid i ddefnyddio crefftwyr lleol a dewis cyflenwyr lleol gan rhoi blaenoriaeth i gwmniau sydd ym mherchnogaeth lleol. Wrth gwrs nid yw'r holl nwyddau'n lleol ond da ni'n ymdrechu i ddewis nwyddau lleol os yn bosib neu e.e. ynysu Rockwool sydd yn cael ei gynhyrchu ym Mhenybont.

Lletywyr
Wedi i Allan Dyer aros bu Morfydd a'i mherch Bethan yn aros.

Morfydd sydd wedi trefnu y Penwythnos Trochi ar gyfer pobl o Gwent. Bydd y 7 stafell yn llawn ar gyfer y digwyddiad. Llenwyd y bws mini mewn dim o amser. Fe ddaeth hi i fyny er mwyn trefnu digwyddiadau dros y penwythnos.

Da ni'n edrych ymlaen i groesawu mwy o grwpiau.
Mae Richard sy'n siarad Cymraeg ac yn byw yn Rhydychen a'i deulu a teulu o ffrindiau wedi aros am 3 noson.
Cofia bod buddsoddwyr yn cael gostyngiad o 10% ar bris aros yn Llety Arall
Buddsoddi
Mae dal cyfle i gynyddu dy fuddsoddiad neu buddsoddi am y tro cyntaf. Yr ydym wedi codi £146,000 oedd yn sylweddol uwch na'r isafswm buasem wrth ein boddau cyrraedd yr uchafswm sef £200,000. Bydd hyn yn golygu y gallwn:
- Leihau y morgais
- Gosod paneli cynhyrchu trydan ar y tô
- Cychwyn ar troi yr atig yn 3 stafell, byddai'n cynyddu'r nifer o stafelloedd i 11.
Beth amdani buddsoddi siar yn £250 neu gelli dalu trwy archeb banc

