Gallwch logi gofod Lle Arall ar gyfer cyfarfodydd, gweithgareddau neu hyfforddiant. Gellir archebu am fore, pnawn, gyda'r nos, neu am y diwrnod cyfan. Mae offer ar gael, ac mae modd llogi cegin hefyd. Cost sesiwn bore, pnawn, neu nos ydi £25 yr un, a £75 yw'r gost am ddiwrnod cyfan. Mae ffi ychwanegol am daflunydd, sgrin a chyfrifiadur.