Yr ydym yn edrych ymlaen i groesawu pobl yn ôl i Gaernarfon, a hynny mewn ffordd gofalus. Yn anffodus, ar hyn o bryd, nid yw'n bosib i chi archebu ystafell(oedd) ar lein. Croeso i chi wneud ymholiad pellach a thrafod eich anghenion drwy cwbwlhau'r ffurflen isod neu e bost i post@lletyarall.org neu ffoniwch 0128662907
Am y tro, byddwn yn gosod y llety i deuluoedd o un aelwyd neu aelodau o'r un bybl yn unig. Bydd modd archebu lle ar sail arhosiad o 3 noson neu fwy, a dim ond un teulu / bybl fydd yn cael defnyddio'r llety ar y tro, sy'n cynnwys defnydd egsgliwsif o'r gegin.
Ymholiad?
Byddwn yn gofyn i letywyr ddod â'u tywelion eu hunain a bydd rhaid i bob gwestai gydymffurfio â'n canllawiau.