Iaith • Amgylchedd • Economi • Cymuned
Croeso i Llety Arall - y lle i aros yng Nghaernarfon sy'n rhoi nôl i'r gymuned ac yn amgylcheddol gyfeillgar
Dyma lety unigryw yng nghanol Caernarfon sy’n cynnig croeso Cymraeg a Chymreig arbennig i ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Mae Llety Arall wedi ei leoli mewn hen warws ar Stryd y Plas, dafliad carreg o Gastell Caernarfon ac atyniadau’r dref hanesyddol. Mae mynyddoedd Eryri a thraethau Môn ychydig filltiroedd i ffwrdd a llu o weithgareddau ar gael o fewn cyrraedd hawdd.
Rydym yn fenter gymunedol sy’n cynnig llety o safon a gofod ar gyfer digwyddiadau o bob math. Rydym yn falch o fod yn hyrwyddo a chynnig profiad Cymraeg i’n gwesteion ac o fod yn chwarae ein rhan yn yr economi leol. Mae gofalu am ein hamgylchedd yn bwysig i ni, felly rydym bob amser yn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd ar gael ar ein stepen drws ac i weithredu mewn ffordd gynaliadwy sy’n amgylcheddol gyfeillgar.