Ardal Caernarfon, Eryri a Môn - treftadaeth, hanes a'r mynyddoedd ar garreg drws Llety Arall
Mae Llety Arall mewn lleoliad delfrydol i ymweld â nifer o ardaloedd poblogaidd a hardd gogledd orllewin Cymru – dyma flas i chi. Holwch ni am lefydd i ymweld â nhw yn ystod eich arhosiad gyda ni.
Caernarfon
Mae Llety Arall yng nghanol tref Caernarfon ar Stryd y Plas. Mae’r lleoliad yn ddelfrydol i grwydro a phrofi’r holl dref. Gyda golygfeydd godidog o’r Fenai, y castell a’r waliau, y farchnad, Caer Rufeinig Segontium a thafarndai hanesyddol, mae rhywbeth i bawb o bob oed i wneud yma. Dylech hefyd ymweld â’r amryw o gaffis a siopau annibynnol sy’n llenwi strydoedd y dref. Mae ein llety yn ddelfrydol i ganfod y gorau o Gaernarfon fel y dre Gymreiciaf yn y byd.
Eryri
Dafliad carreg o dref Caernarfon, mae Parc Cenedlaethol Eryri a mynyddoedd uchaf Cymru. Rhai o brif atyniadau'r parc yw’r Wyddfa (copa uchaf Cymru), Y Glyderau, Y Carneddau a’r Moelwynion. Mae llwybrau’r holl fynyddoedd yma o fewn 30 munud yn y car i ni yn Llety Arall. Mae Llyn Padarn ym mhentref Llanberis sy’n ddim ond 20 munud o’r dref, hefyd yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer gweithgareddau dŵr ac awyr agored.
Ardal Llechi
Ym mis Gorffennaf 2021 fe gyhoeddodd UNESCO bod Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi ennill statws fel Safle Treftadaeth Byd. Mae’r dynodiad yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wnaeth Cymru i’r Chwyldro Diwydiannol. O fewn ardal llechi Gwynedd y llefydd penodol i gael y gydnabyddiaeth yma yw Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Dinorwig, Cwm Pennant, Ffestiniog ac Abergynolwyn. Mae diwylliant y llechi wedi ei wreiddio’n ddwfn yng Ngogledd Cymru, felly mae’n sicr werth ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis i wybod mwy am hanes llechi.
Ynys Môn
Os edrychwch chi dros y Fenai o Gaernarfon fe welwch chi Ynys Môn. Mae’n leoliad perffaith i fynd am dro gyda thraethau ac atyniadau niferus. Mae Ynys Llanddwyn, Gerddi Plas Newydd, a Chastell Biwmares wedi eu lleoli llai na 45munud o Gaernarfon ac yn denu ymwelwyr o bell ac agos. Mae traethau a llwybr arfordir yr ynys yn cynnig golygfeydd anhygoel a gweithgareddau amrywiol o gerdded, a beicio i weithgareddau dŵr a llawer mwy. Ac mae’n rhaid cael llun wrth arwydd enwog y pentref sydd â’r enw hiraf yn Ewrop, Llanfairpwll...
Gweithgareddau
Mae llawer o weithgareddau i rai anturus a llai anturus i gael yn ardal Caernarfon a’r cyffiniau. Os ydych chi'n chwilio am weithgaredd adrenalin uchel yna bydd ‘Zipworld’ ym Methesda at eich dant, tra bod Gelli Gyffwrdd ger Y Felinheli yn barc antur hwyliog ac addas i deuluoedd. I’r Gorllewin mae’n werth cofio fod traeth Dinas Dinlle yn hynod o agos a’r rhan fwyaf o draethau Pen Llŷn i gyd o fewn awr yn y car i’r dref.