Cysylltu â Llety Arall am eich gwyliau neu ddigwyddiad
Llety Arall
9 Stryd y Plas
Caernarfon
Gwynedd LL55 1RR
E-Bost: post@lletyarall.org
Rhif ffôn: 07721497283
Trafnidiaeth
Mae Llety arall wedi ei leoli yng nghalon tref Caernarfon sy’n ei gwneud hi’n hawdd i gyrraedd yma mewn car neu gyda thrafnidiaeth cyhoeddus.
Mae mynediad i ganol y dref mewn car, dilynwch yr A4871 o gyfeiriad y De a’r Gogledd. O gyfeiriad Llanberis dilynwch yr A4086, ac o gyfeiriad Waunfawr dilynwch Ffordd Cwstenin. Mae meysydd parcio wedi eu lleoli o amgylch y dref.
Yr orsaf drenau agosaf ydy gorsaf Bangor sydd tua 9 milltir i ffwrdd.
Mae’r orsaf bysiau yn y dref yn agos i Llety Arall (tua 5 munud o gerdded). Mae bws 5C yn rhedeg yn gyson rhwng Caernarfon a Bangor. Mae bws y T2 hefyd yn rhedeg trwy Caernarfon sy’n wasanaeth bws hygyrch ac yn cysylltu’r de a’r gogledd, a chysylltiadau i’r T3 y ddwyrain.
Mae mynediad hawdd i’r dref ar feic gyda llwybr beics o gyfeiriad y gogledd a’r de yn rhedeg trwy’r dref.
Mae modd crwydro’r dref gyfan ar droed, ond os ydych yn chwilio am daith ychydig pellach mae yna nifer o gwmnïau tacsis lleol yn yr ardal.