Cyfleusterau'r llety ar gyfer gwyliau a gwyliau byr yng Nghaernarfon
Y Gegin
Mae cegin cymunedol ar y llawr gwaelod sydd ar gael i’n gwesteion ei defnyddio. Mae’n cynnwys popeth sydd ei angen ar gyfer gwyliau hunan arlwyo – gydag oergell, hob, popty a meicrodon. Gallwch osgoi golli llestri wrth ddefnyddio’r peiriant golchi llestri pe dymunech. Mae digonedd o lestri, gwydrau, potiau a sosbenni ac mae croeso i chi eu defnyddio. Gallwch fynd a gwydrau i’ch llofft i fwynhau potel o win neu jwg o ddŵr.
Mae ambell i fwrdd yn y gegin a rhagor i’w cael yn yr ystafell gymunedol.
Bwyta
Nid ydym yn darparu prydau yn Llety Arall ond mae llu o fwytai a chaffis o fewn ychydig o gamau i’r drws ffrynt. Byddwn yn hapus iawn i argymell llefydd i chi fynd i fwyta yn seiliedig ar eich awydd a’ch chwaeth chi.
Gall y becws drws nesa baratoi pecyn bwyd i chi os ydych am fynd allan i grwydro am y diwrnod. Gallwn drefnu hyn i chi gydag ychydig bach o rybudd.
Cyffredinol
Nid oes parcio ar y safle ond mae digon o le mewn meysydd parcio cyfagos yn y dref. Gallwn eich cynghori ar le i barcio yn ddibynnol ar hyd eich arhosiad.


