Llety Arall

Iaith • Amgylchedd • Economi • Cymuned

Croeso

Dyma lety unigryw yng nghanol Caernarfon sy’n cynnig croeso Cymraeg a Chymreig arbennig i ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Mae Llety Arall wedi ei leoli mewn hen warws ar Stryd y Plas, dafliad carreg o Gastell Caernarfon ac atyniadau’r dref hanesyddol. Mae mynyddoedd Eryri a thraethau Môn ychydig filltiroedd i ffwrdd a llu o weithgareddau ar gael o fewn cyrraedd hawdd.

Rydym yn fenter gymunedol sy’n cynnig llety o safon a gofod ar gyfer digwyddiadau o bob math. Rydym yn falch o fod yn hyrwyddo a chynnig profiad Cymraeg i’n gwesteion ac o fod yn chwarae ein rhan yn yr economi leol. Mae gofalu am ein hamgylchedd yn bwysig i ni, felly rydym bob amser yn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd ar gael ar ein stepen drws ac i weithredu mewn ffordd gynaliadwy sy’n amgylcheddol gyfeillgar.

Aros Aros

Aros

Mae 8 llofft ar gael yn Llety Arall i unigolion, cyplau, teuluoedd, ac i grwpiau - wedi eu cynllunio yn ofalus i sicrhau arhosiad braf mewn awyrgylch cartrefol. Mae’r deunyddiau a gosodiadau ym mhob ystafell wedi eu prynu neu wedi eu hailgylchu yn lleol.

Mwy

Digwyddiadau a Chyfarfodydd

Mae ein gofod cymunedol, Lle Arall, yn lleoliad arbennig ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a phartïon. Mae’r ystafell yn dal hyd at 50 o bobl gan ddibynnu ar fformat, gydag offer ac adnoddau ar gael i’w llogi.

Mwy
Gofod Cymunedol Gofod Cymunedol
Cymryd Rhan Cymryd Rhan

Cymryd Rhan

Fel menter gymdeithasol rydym wastad yn awyddus i groesawu gwirfoddolwyr a buddsoddwyr newydd. Dyma sy’n sicrhau bod Llety Arall yn gallu parhau i ddatblygu a chyflawni ein gweledigaeth o ddarparu llety gyda phwyslais ar y Gymraeg yn nhref Caernarfon.

Mwy

Newyddion

Rydym yn cynnal pob math o ddigwyddiadau yn Lle Arall ac yn trefnu pecynnau penwythnos arbennig yn Llety Arall. Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy am hyn a’n newyddion diweddaraf.

Darllen Mwy
 

Oriel

Argraffwyd o www.lletyarall.org ar 18/03/2024 15:37:51.

Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RR

Ffôn: 01286 662907
E-bost: post@lletyarall.org