Llety Arall

Tîm menter gymunedol Llety Arall

Cyfarwyddwyr

Mae naw cyfarwyddwyr gwirfoddol wedi eu hethol gan aelodau Llety Arall yn y cyfarfod blynyddol ar gylchdro 3 blynedd. Dyma gyfarwyddwyr presennol Llety Arall...

Daniela Schlik

Daniela Schlik

Cadeirydd
Mae Dani o Sacsoni yn yr Almaen yn wreiddiol, bellach yn byw yn Bethesda. Ar ôl byw ym Merlin am gyfnod, symudodd i Gymru yn 2015 i ddysgu Cymraeg. Ers mis Medi 2018 mae hi’n gweithio i Mentrau Iaith Cymru. Bellach mae’n Rheolwr Busnes a Phrosiectau ac yn gofalu am brosiectau cenedlaethol ar draws y Mentrau Iaith. Mae Dani yn trefnu sesiynau sgwrsio ar gyfer dysgwyr Cymraeg ym Mangor a Bethesda a gweithgareddau eraill er mwyn cefnogi dysgwyr yr ardal.

Menna Machreth Jones

Menna Machreth

Ysgrifennydd
Yn wreiddiol o Llanddarog, Sir Gaerfyrddin mae Menna wedi byw yng Nghaernarfon ers 2010 ac mae bellach yn magu teulu yma. Symudodd i’r gogledd er mwyn astudio ar gyfer MA ac PhD yn y Gymraeg. Bu’n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn y rôl honno cafodd brofiad o arwain ymgyrchoedd a datblygu syniadau am bolisïau yn ymwneud â statws y Gymraeg, addysg a chymunedau. Bu'n gweithio i Undeb Bedyddwyr Cymru ac mae bellach yn swyddog polisi ym Mudiad Meithrin. Mae hi wedi teithio’n helaeth ac ar sail y profiadau hynny yn credu bod gan Gaernarfon lawer i’w gynnig i’r teithiwr annibynnol a diwylliannol.

Trystan Jones

Trystan Evans

Trysorydd
Yn byw yng Nghaernarfon efo’i deulu ers deng mlynedd, mae gan Trystan radd meistr mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy. Mae wedi gweithio ers dros ugain mlynedd efo cymdeithas dai leol yn y maes adeiladu a thrwsio. Mae bellach yn gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn ac yn gyfrifol am ddatblygu ac adeiladu tai cyngor newydd. Mae wedi bod yn drysorydd Cylch Meithrin yng Nghaernarfon, ac yn falch o fedru gwirfoddoli a chefnogi mudiadau lleol fel Llety Arall. Mae’n awyddus i weld Caernarfon yn ffynnu, a hynny drwy’r Gymraeg.

Bethan Glyn

Yn wreiddiol o Forfa Nefyn ond yn byw yng Nghaernarfon ers 35 mlynedd ac wedi magu 4 o blant yma. Wedi ymddeol yn ddiweddar fel tiwtor-drefnydd Cymraeg i Oedolion efo Prifysgol Bangor a bellach yn mwynhau ymwneud â gwahanol fudiadau a grwpiau yn y gymuned, yn cynnwys Llety Arall.

Cai Larsen

Mae Cai yn wyneb adnabyddus yn nhref Caernarfon, ac yn gwasanaethu fel Cynghorydd Ward Canol Tref, a dros ward Seiont cyn hynny. Bu’n Faer ar y dref. Bu'n bennaeth Ysgol Trefor o 1997-2016, ac mae hefyd yn weithgar fel aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedaethol Plaid Cymru.

Janet Wyn George

Yn wreiddiol o Dreuddyn, Sir y Fflint, mae Janet wedi byw yn Llanrug ers dros 25 o flynyddoedd. Ar ôl dilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth gwariodd peth amser yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd, Cwm Rhymni a Llantrisant cyn symud yn ôl i’r Gogledd i fyw a magu teulu. Bu’n gweithio am dros 35 o flynyddoedd ym myd addysg gan gynnwys deg mlynedd fel Pennaeth Ysgol Bontnewydd. Ers iddi ymddeol yn 2019 mae Janet wedi bod yn mwynhau treulio amser â’i hwyrion, yn teithio ac yn dilyn diddordebau amrywiol gan gynnwys gwaith gwirfoddol.

Dewi Rowlands

Dewi Rowlands

Yn hanu o Llanaelhaearn, astudiodd Dewi Peirianneg Sifil a Strwythurol ym Mhrifysgol Caerdydd a chychwyn ar ei yrfa yng Nghyngor Sir Morgannwg Ganol cyn symud yn ôl i’r gogledd. Bu’n gyfarwyddwr yng nghynghorau Sir Ynys Môn a Gwynedd. Yn fwy diweddar bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr yn Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb am Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth. Arweiniodd ar gyhoeddi Llwybr Newydd - Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021 ddiwedd Mawrth. Mae wedi ymddeol ers 2021 ac yn treulio’i amser yn ffermio ac yn diddanu ei wyrion.

Bethan Mair Williams

Bethan Mair

Mae Bethan wedi ei magu yn Zambia a Papua New Guinea gan dreulio 6 wythnos pob Nadolig pan oedd hi’n iau mewn ysgol Gymraeg. Yn sgil hyn mae ganddi ddiddordeb mewn teithio a ieithoedd. Mae hi’n gweithio fel therapydd iaith a lleferydd annibynnol erbyn hyn. Wedi bod yn rhan o brosiect Llety Arall ers y dechrau ac wedi gwirfoddoli yn ystod y cyfnod adnewyddu. Mae’r cyfle i fod yn rhan o rhywbeth sy’n dangos y gorau o Gymru a’n diwylliant a iaith yn rhywbeth mae hi’n falch ohono.

Argraffwyd o www.lletyarall.org ar 04/08/2026 01:22:51.

Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RR

Ffôn: 01286 662907
E-bost: post@lletyarall.org