Llety Arall

Llety ar gyfer grwpiau sy'n ymweld â Chaernarfon

Mae’n bleser gennym eich gwahodd chi a’r grŵp rydych yn ei gydlynu i aros yn Llety Arall – y man delfrydol i ddarganfod iaith, gweithgareddau, diwylliant a threftadaeth gogledd orllewin Cymru.

Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau llety i grwpiau. Mae 8 ystafell ar gael sy’n cynnig capasiti o 20 (gallwn eich helpu os oes gennych grŵp sy’n fwy na hyn).

Mae lleoliad Llety Arall ar Stryd y Plas, nid nepell o’r Maes a’r Chastell ac yng nghanol tref fyrlymus Caernarfon yn ein gwneud ni’n gyrchfan ddelfrydol ar gyfer grwpiau ysgol, dysgwyr Cymraeg, cymdeithasau a chlybiau o bob math. Rydym hefyd yn leoliad cyfleus ar gyfer busnesau a sefydliadau sy’n chwilio am lety i staff sydd yng Nghaernarfon ar waith neu fusnes.

‘Cawsom groeso cynnes a Chymreig yn Llety Arall.  Roedd yr ystafelloedd yn hynod gysurus, glân a chyfforddus.  Roedd yr ystafell ymgynnull yn le braf i gymdeithasu a’r gegin yn bwrpasol ar gyfer hunan arlwyo.  Roedd y disgyblion wrth eu boddau â’r holl siopau a’r cyfleusterau oedd gerllaw ac roedd y lleoliad yn hynod gyfleus ar gyfer ein teithiau i Fethesda ac Abergwyngregyn.  Byddwn yn siwr o ddychwelyd.’

Athro, Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd.

Dewch i Gaernarfon er mwyn cael profiad gwych o’r Gymraeg, a mwynhau’r gweithgareddau a’r profiadau unigryw gall yr ardal ei gynnig.

Gall y pecynnau isod roi syniadau i chi ynglŷn â thaith yn y dyfodol agos – cofiwch gysylltu â ni i fynegi diddordeb ac fe fyddwn yn barod i’ch helpu!

Mae croeso ichi hefyd anfon ymholiad trwy e bost i post@lletyarall.org neu ffonio 07721497283.

PWYSWCH Y DDOLEN ISOD I DDARLLEN EIN PECYN ADDYSG SY’N CYNNWYS GWYBODAETH DDEFNYDDIOL AR GYFER TEITHIAU YSGOL

 

Pecyn Ysgolion a Grwpiau

Ymholiad gan Grwp

Nifer: 0
Nifer: 0
Nifer: 0
Mae'r isafswm ar gyfer aros 2 noson ar gyfer grwpiau
Selected Value: 0
Selected Value: 0
Selected Value: 0

Argraffwyd o www.lletyarall.org ar 04/08/2026 20:58:02.

Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RR

Ffôn: 01286 662907
E-bost: post@lletyarall.org