Ystafelloedd ensuite ar gyfer gwyliau neu wyliau byr yn nhref gaerog Caernarfon ac Eryri
Croeso i’n llety unigryw yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon.
Mae 8 ystafell en suite yn Llety Arall, gyda llofftydd sengl, dwbl/ twin a theulu ar gael. Mae ystafell mynediad lefel gwastad ar gael hefyd. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw anghenion sydd gennych. Mae’r dodrefn a’r deunyddiau ym mhob llofft wedi eu creu gan grefftwyr lleol a llawer wedi eu hailgylchu a’u hail ddefnyddio o leoliadau eraill.
Archebu
Gallwch archebu yn uniongyrchol ar-lein neu mae croeso i chi gysylltu gyda ni i drafod eich anghenion fel unigolyn neu grŵp. Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod eich arhosiad gyda ni mor gyfforddus â phosib.
Ar gyfer grwpiau mwy, neu os ydych yn cael trafferth archebu, peidiwch oedi i gysylltwch â ni i drafod eich archeb.
Arhosiadau hir – os oes gennych ddiddordeb mewn aros yn Llety Arall am fwy na 14 noson, cysylltwch â ni i gael ein telerau gorau.
Telerau ac Amodau Archebu
Cliciwch yma i weld ein telerau ac amodau archebu.