Gofod cymunedol ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd wyneb i wyneb a chyfarfodydd hybrid
Mae gofod cymunedol a chymdeithasol Lle Arall wedi sefydlu ei hun fel canolbwynt i ddigwyddiadau diwylliannol a mwy yn nhref Caernarfon. Mae ystafell Lle Arall yn un aml-bwrpas sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd, gweithgareddau, hyfforddiant neu unrhyw fath o ddigwyddiad yn y dref.
Mae cyfleusterau digidol ar gael yn Lle Arall i’ch galluogi i gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau hybrid, ee cyfarfod wyneb i wyneb gydag unigolion yn ymuno yn rhithiol.
Mae posib archebu am fore, pnawn, gyda’r nos, neu am y diwrnod cyfan. Mae offer ar gael, ac mae modd llogi cegin hefyd am bris ychwanegol. Cost sesiwn bore, pnawn, neu nos yn cychwyn o £30 yr un, a cychwyn o £80 am ddiwrnod cyfan. Mae ffi ychwanegol am daflunydd, sgrin a chyfrifiadur.
Dyma restr o rai o’r digwyddiadau sydd wedi cael eu cynnal yma yn ddiweddar:
- Gig y Blŵs Ôl-Eisteddfod: Cerddoriaeth byw
- Sgwrs gyda panel ar lwyddiannau Cymru wrth gyrraedd Cwpan y Byd
- Creu crefftau Gŵyl Ddewi
- Digwyddiadau lansio
- Sgyrsiau panel
- Noson cyfnewid cerddi
- Cyfarfodydd
- + mwy
Cysylltwch a ni i archebu post@lletyarall.org neu ffoniwch 07721497283









