June 20 | 2023
Rhannu
Beth ga i wneud yng Nghaernarfon?
Dod i Gaernarfon ac aros yn Llety Arall? Gadewch i ni roi chydig o gyngor i chi am beth i’w wneud tra eich bod yn y dre orau yn y byd!
Tywyswyr sy’n gwybod eu stwff
Os ydych chi eisiau mynd dan groen y dref, mae’n werth treulio amser yng nghwmni tywyswyr sy’n gwybod eu stwff ac yn gallu dod â hanes y dref yn fyw! Mae Rhys Mwyn yn arbenigwr archaeoleg gogledd Cymru ac yn hanesydd diwylliannol sy’n arwain grwpiau o gwmpas Caernarfon a thu hwnt (rhysmwyn@hotmail.co.uk). Mae Deian ap Rhisiart hefyd yn arwain teithiau addysgiadol am dreftadaeth i unigolion a grwpiau (http://www.tourguide-wales.cymru/cy/).
Beicio
Neidiwch ar feic a crwydro’r lonydd beicio gwych sydd yn yr ardal. Gallwch logi beic o Beics Antur yngNghaernarfon (https://www.anturwaunfawr.org/beics-antur/antur-bikes/) a mynd ar daith hamddenol o gwmpas Y Foryd (ardal harddwch naturiol) neu Lôn Eifion a Lôn Menai). Beth am feicio i Lanberis ac ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru i ddysgu mwy am treftadaeth gyfoethog diwydiant y llechi: https://amgueddfa.cymru/llechi/
Beth am fordaith?
Beth am fordaith ar y Fenai i gael gweld yr ardal o ongl wahanol? Mae’r Queen of the Sea yn cynnig mordeithiau byr a hir gan gynnwys i lawr y Fenai ac o dan y ddwy bont sy’n croesi i Fôn (https://menaicruises.co.uk/)
Siopa
Mae Llety Arall wedi ei leoli ar stryd wych o siopau annibynnol a cewch groeso cynnes mewn siopau fel Siop yr Iard, Palas Print, Lotti and Wren a Siop Manon wrth gwrs sydd ar lawr gwaelod adeilad Llety Arall! Neu beth am ymweld â Chei Llechi sy’n cynnwys siopau celf, rhoddion a chrefftau wedi eu creu ar y safle.
Trên Stêm
Ffordd arall o deithio yw’r trên stêm drwy Eryri i fwynhau golygfeydd godidog heb golli chwys. Trenau yn gadael Caernarfon yn gyson (https://www.festrail.co.uk/).
Taith antur
Os ydych chi’n teimlo’n fwy anturus, beth am drefnu taith gerdded dan arweiniad medrus Stephen o Anelu? Mae Stephen hefyd yn gallu eich helpu i ddatblygu eich sgiliau mynydda (https://www.mountain-hill-courses.co.uk/)
Rhywbeth i'r teulu cyfan
Chwilio am bethau i’r teulu cyfan? Mae Anelu yn trefnu sesiynau gwylltgrefft i’r teulu, neu beth am drio wal ddringo Beacon? (https://www.beaconclimbing.com/). Mae parciau Gelli Gyffwrdd (https://www.greenwoodfamilypark.co.uk/) i deuluoedd a Pharc Coed y Sipsi (https://gypsywood.co.uk/) i blant ifanc bob tro’n boblogaidd ac yn sicr o roi gwên a boddhad i bawb.
Gweithgareddau dŵr
Gwnewch y mwya o fod ger y dŵr! Mae Parc Menai (https://www.plasmenai.wales/cy/index_CY) yn arbenigo mewn cynnig pob math o weithgareddau ar y dŵr – hwylfyrddio, caiacio, syrffio, padlfyrddio – a llawer mwy! Neu beth am fynd draw at Pellennig ar draeth Dinas Dinlle sy’n cynnig sesiynau syrffio a padlfyrddio – mwy o wybodaeth yma: https://www.camu.cymru/pellennig
Iechyd da!
Bwyd! A diod! Does dim byd i guro peint a gwylio’r haul yn machlud yn goch o wal yr Anglesey. Mae digon o fwytai gwych ar garreg y drws i Llety Arall, fel Tafarn y Bachgen Du, Tân a Wso ac Olewydd (bwyty traddodiadol meze Groegaidd). Me nifer o gaffis yng nghanol y dre a rhai o’n ffefrynau i gael cinio yw Bonta Deli, Caffi Maes a Bwyd Blasus Yashka.
Y Castell
Yn olaf…ond yn sicr nid y lleiaf…y castell! Does dim modd osgoi Castell Caerarfon, ac mewn buddsoddiad mawr diweddar wedi gwella’r cyfleusterau a phrofiad yr ymwelydd yn fawr, gyda nifer o ardaloedd yn agor am y tro cyntaf i ymwelwyr. Mae ambell i ddigwyddiad enwog wedi digwydd yno wrth gwrs, ond yn fwy diweddar bu’n leoliad gwych i perfformiadau gan artistiaid eiconig fel Geraint Jarman a Candelas. A dyna’n tip olaf – cofiwch daro golwg ar raglen celfyddydol Y Galeri cyn ymweld sy’n cynnig arlwy amrywiol o gigs, comedi, sgyrsiau neu gwyliwch y ffilmiau diweddaraf yn eu sinema! (https://www.galericaernarfon.com/)
Postiadau Diweddar
Adroddiad Blynyddol 2025 | 2025 Annual Report
Darllenwch Adroddiad Blynyddol 2025 Llety Arall Cyf: Read Llety Arall Cyf 2025 Annual Report: Adroddiad Blynyddol 2025 Annual Report
Darllen MwyBeth ga i wneud yng Nghaernarfon?
Dod i Gaernarfon ac aros yn Llety Arall? Gadewch i ni roi chydig o gyngor i chi am beth i’w wneud tra eich bod yn y dre orau yn y byd!
Darllen MwyCyfarfod Blynyddol Cyfrandalwyr
Dydd Llun, 5 Mehefin, 2023 am 6:00pm Lle Arall (Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon LL55 1RR neu gallwch gofrestru i ymuno ar Zoom Bydd lluniaeth ysgafn o gaws, gwin neu ddiodydd meddal yn cael ei weini ar ddiwedd y cyfarfod. […]
Darllen Mwy