May 15 | 2023
Cyfarfod Blynyddol Cyfrandalwyr
Dydd Llun, 5 Mehefin, 2023 am 6:00pm
Lle Arall (Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon LL55 1RR
neu gallwch gofrestru i ymuno ar Zoom
Bydd lluniaeth ysgafn o gaws, gwin neu ddiodydd meddal yn cael ei weini ar ddiwedd y cyfarfod.
COFRESTRWCH YMA (ERBYN 30 MAI)
Ar ôl y cyfarfod blynyddol, bydd hyfforddiant Croesawu Gwesteion i wirfoddolwyr.
Hoffech chi fod ar ein tîm croesawu? Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb, llenwch y ffurflen hon.
Digwyddiadau i ddod:
9-10 Mehefin: Penwythnos Awyr Agored – dwy noson yn Llety Arall a gweithgareddau gyda Anelu
Os gwelwch yn dda, rhannwch y wybodaeth!

Rhaglen Cyfarfod Blynyddol
2022.1. Croeso ac Ymddiheuriadau
2022.2. Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2021,
26 Mai 2022 (copi o’r cofnodion)
2022.3. Adroddiad gan Gadeiryddion y Bwrdd a’r Is-bwyllgorau
2022.4. Ethol Cyfarwyddwyr y Bwrdd
Mae croeso gynnig eich hun, neu
enwebu rhywun cymwys (sydd yn aelod o’r fenter) erbyn 30.5.23 drwy anfon
neges at post@lletyarall.org
2022.5. Derbyn y Cyfrifon am y flwyddyn yn gorffen 31.12.22 (copi o’r cyfrifon)
2022.6. Llog ar fuddsoddiadau
Cynnig gan Fwrdd Cyfarwyddwyr Llety Arall i’r Cyfarfod Blynyddol:
‘Mae Bwrdd Llety Arall yn cynnig i’w fuddsoddwyr fod llog o 1% yn cael ei dalu ar gyfranddaliadau am y flwyddyn sy’n diweddu ar y 31ain o Ragfyr 2022.
Mae’r Bwrdd hefyd yn cynnig fod cronfa yn cael ei sefydlu er defnydd sy’n gydnaws â gweledigaeth menter gymunedol Llety Arall.
Rhaid i bob buddsoddwr hysbysu Trysorydd Llety Arall eu bwriad i naill ai:
a. Derbyn y llog
b. Peidio â derbyn y llog gyda’r ddealltwriaeth bydd y llog yn mynd tuag at Llety Arall
c. Eu dymuniad i gyfrannu’r llog ar eu buddsoddiad tuag at y gronfa er defnydd sy’n gydnaws â gweledigaeth menter gymunedol Llety Arall.’
2021.7. Unrhyw Fater Arall
A wnewch chi gadarnhau eich presenoldeb (yn y cnawd neu’n rhithwir) drwy gofrestru:
Neu cysylltwch â post@lletyarall.org / 01286 662907
Postiadau Diweddar
Adroddiad Blynyddol 2025 | 2025 Annual Report
Darllenwch Adroddiad Blynyddol 2025 Llety Arall Cyf: Read Llety Arall Cyf 2025 Annual Report: Adroddiad Blynyddol 2025 Annual Report
Darllen MwyBeth ga i wneud yng Nghaernarfon?
Dod i Gaernarfon ac aros yn Llety Arall? Gadewch i ni roi chydig o gyngor i chi am beth i’w wneud tra eich bod yn y dre orau yn y byd!
Darllen MwyCyfarfod Blynyddol Cyfrandalwyr
Dydd Llun, 5 Mehefin, 2023 am 6:00pm Lle Arall (Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon LL55 1RR neu gallwch gofrestru i ymuno ar Zoom Bydd lluniaeth ysgafn o gaws, gwin neu ddiodydd meddal yn cael ei weini ar ddiwedd y cyfarfod. […]
Darllen Mwy