Llety Arall

December 14 | 2022

Hysbyseb Swydd Cydlynydd

Rydym yn awyddus i gyflogi Cydlynydd brwdfrydig sydd yn gallu gweithio’n annibynnol i redeg Llety Arall o ddydd i ddydd. Rydym yn chwilio am berson gweithgar, trefnus a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd angen i’r person hefyd fod â sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol a chynnig rheolaeth llinell i staff glanhau.

Am fwy o wybodaeth neu i ofyn cwestiwn, cysylltwch â Menna Machreth: post@lletyarall.org / 01286 662907

Disgrifiad swydd: Swydd Ddisgrifiad Cydlynydd Llety Arall

Ffurflen gais: Ffurflen-Gais-Llety-Arall-Cyf

Os gwelwch yn dda, defnyddiwch y ffurflen gais yn unig wrth wneud cais am y swydd hon, a’i hanfon at post@lletyarall.org erbyn 5pm ar 20 Ionawr, 2023.

Postiadau Diweddar

Adroddiad Blynyddol 2025 | 2025 Annual Report

Darllenwch Adroddiad Blynyddol 2025 Llety Arall Cyf: Read Llety Arall Cyf 2025 Annual Report: Adroddiad Blynyddol 2025 Annual Report

Darllen Mwy

Beth ga i wneud yng Nghaernarfon?

Dod i Gaernarfon ac aros yn Llety Arall? Gadewch i ni roi chydig o gyngor i chi am beth i’w wneud tra eich bod yn y dre orau yn y byd!

Darllen Mwy

Cyfarfod Blynyddol Cyfrandalwyr

Dydd Llun, 5 Mehefin, 2023 am 6:00pm  Lle Arall (Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon LL55 1RR neu gallwch gofrestru i ymuno ar Zoom Bydd lluniaeth ysgafn o gaws, gwin neu ddiodydd meddal yn cael ei weini ar ddiwedd y cyfarfod.  […]

Darllen Mwy

Argraffwyd o www.lletyarall.org ar 05/10/2026 22:54:30.

Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RR

Ffôn: 01286 662907
E-bost: post@lletyarall.org